O! Grist, Gwaredwr dynol-ryw, A chwiliwr byw'n calonnau, Prydferthwch dy santeiddrwydd pur Sy'n barnu'r cenedlaethau. Dy gariad drud fel golau'r wawr Sy'n dangos i holl blant y llawr Mor fawr yw grym eu beiau. Mewn edifeirwch plyg ni oll, Heb goll mewn llwch a lludw; A gwna ni'n awr yn nydd ein nerth Yn brydferth ar dy ddelw; Tra galler, Arglwydd da, dy gael, Estyn ymwared i rai gwael, A'th gariad hael i'n cadw.Richard Samuel Rogers 1882-1950 O! Farner cyfiawn, gwrando'n cri, Sydd mewn trueni'n gorwedd; O'th nerthol ras tosturia Di, A dod i ni drugaredd; O fewn y noddfa caffer ni, Agorwyd gynt ar Galfari, Cyn delo dydd dialedd.efel. Hugh Hughes (Gethin) -1867 Tôn [87.87.887]: Dies Irae (Joseph Parry 1841-1903) gwelir: Duw mawr pa beth a welaf draw? |
O Christ, Deliverer of human-kind, And living searcher of our hearts, The beauty of thy pure sacredness Is judging the nations. Thy precious love like the light of the dawn Is showing to all the children of earth How great is the force of their faults. In repentance bend us all, Without exception in dust and ashes; And make us now in the day of our strength Beautifully according to thy image; While thou art, good Lord, to be had, Extend deliverance to the lowly ones, And thy generous love to keep us. O righteous Judge, listen to our cry, Who are in wretchedness lying; Of thy strong grace have thou mercy, And bring to us pity; May we be found within the refuge, That was once opened on Calvary, Before the day of retribution comes.tr. 2021 Richard B Gillion |
William Bengo Collyer 1782-1854
|